Hyfforddiant Allgymorth Grymusol
Please note this event has expired. To view our current calendar of events and training courses please click here.
Thursday, 12 December 2019
Dyddiadau dethol rhwng dydd Llun 18 Tachwedd 2019 a dydd Gwener 20 Rhagfyr 2019 Ledled y wlad (Cymru) / Hyfforddiant am ddim
Mae'r pecyn hyfforddi newydd hwn, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cael ei redeg gan Homeless Link, yn ymateb i adroddiad a luniwyd ar gyfer Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, Julie James, a oedd yn amlinellu argymhellion ar sut i leihau achosion o gysgu allan a digartrefedd yng Nghymru. Cliciwch yma am Saesneg
Mae'r rhaglen hyfforddi hon wedi cael ei datblygu yn seiliedig ar yr 8 egwyddor y manylir arnynt yn yr adroddiad Allgymorth Grymusol: egwyddorion ar gyfer Cymru. Mae'r ddogfen hon, a luniwyd gan Cymorth Cymru, mewn partneriaeth â'r sector digartrefedd a’r sector cysylltiedig â thai yng Nghymru, yn amlinellu sut dylai allgymorth grymusol edrych yn ymarferol, gan archwilio'r ffactorau llwyddiant a'r rhwystrau i gyflawni ac argymhellion ar gyfer egwyddorion.
Nod y cwrs yw helpu timau allgymorth i weithredu allgymorth grymusol yn ymarferol, darparu ymyriadau cymorth effeithiol a chyflawni canlyniadau cadarnhaol i unigolion sy'n cysgu allan. Fe'i datblygwyd gan Homeless Link gyda chyfraniadau gan sefydliadau digartrefedd ac unigolion sydd â phrofiad eu hunain o allgymorth ar y stryd.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?
Bydd yr hyfforddiant hwn yn agored i bob gweithiwr allgymorth, gan gynnwys staff yr Awdurdod Lleol a'r sector gwirfoddol, yn ogystal ag arweinwyr amlasiantaeth a darparwyr llety brys. Mae nifer o sesiynau hyfforddi mewn lleoliadau penodol yng Nghaerdydd, Wrecsam, Casnewydd ac Abertawe. Mae yna hefyd 2 sesiwn agored i staff mewn ardaloedd eraill.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, bydd y rhai a fu’n bresennol yn gallu:
- Cynllunio a chynnal shifft allgymorth, gan gynnwys deall sut i gynnal asesiad diogelwch/risg a gwiriadau lles
- Deall beth yw ystyr cymorth grymusol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a sut i'w gymhwyso
- Deall pam gallai unigolion ymddieithrio neu wrthod cynnig o gymorth a gwahanol strategaethau y gellir eu defnyddio mewn ymateb
- Deall y cysylltiad rhwng trawma a digartrefedd
- Disgrifio llwybrau cyffredin i'r strydoedd
- Defnyddio amrywiaeth o dechnegau cyfathrebu sy'n cynorthwyo gwaith cymell
- Bod yn ddigon addasadwy i allu adnabod ac ymateb i anghenion a dewisiadau unigol
- Amrywio’r cynnig gwasanaeth yn dibynnu ar yr unigolyn, drwy fod yn ymwybodol o'r amrywiaeth o ddewisiadau llety a'r ddarpariaeth iechyd a chymorth arbenigol sydd ar gael, sydd i gyd yn cyfrannu at roi terfyn ar gysgu allan
- Mabwysiadu ymagwedd barhaus drwy waith achos sy'n canolbwyntio ar rymuso staff i feithrin cysylltiadau diogel drwy asesiadau sy'n seiliedig ar gryfderau
- Bod yn ymwybodol o rôl allgymorth o fewn llwybr digartrefedd ehangach i roi terfyn ar ddigartrefedd rhywun.
Hyd y Cwrs
Cwrs undydd yw hwn a fydd yn rhedeg rhwng 10am a 4.00pm.
Dyddiadau cyrsiau ac archebu lle
Cliciwch ar ddyddiad isod i archebu lle. Os oes gennych chi gwestiynau am y rhaglen hyfforddi, anfonwch neges e-bost at James Cuming[1], y Rheolwr Hyfforddi yn Homeless Link: training@homelesslink.org.uk
Wrecsam
18 Tachwedd 2019
19 Tachwedd 2019
20 Tachwedd 2019
Caerdydd
26 Tachwedd 2019
27 Tachwedd 2019
28 Tachwedd 2019
29 Tachwedd 2019
Casnewydd
3 Rhagfyr 2019
4 Rhagfyr 2019
5 Rhagfyr 2019
Conwy
9 Rhagfyr 2019
Abertawe
10 Rhagfyr 2019
11 Rhagfyr 2019
12 Rhagfyr 2019
Merthyr Tudful
13 Rhagfyr 2019
Deunyddiau hyfforddi allgymorth
Er mwyn ategu'r hyfforddiant wyneb yn wyneb hwn, bydd pawb a fydd yn bresennol yn derbyn deunyddiau hyfforddi allgymorth atodol i gynnwys:
- Astudiaethau achos hyfforddiant allgymorth
- Briffio ar rôl asiantaethau statudol a gwirfoddol o ran adolygu amgylchiadau pan fydd rhywun sy'n cysgu allan wedi marw
- Briffio ar Ofal Gwybodus yn sgil Trawma [Trauma-Informed Care] ac Amgylcheddau sy'n Wybodus o safbwynt Seicolegol [Psychologically Informed Environments].
- Canllawiau ar sut i ddefnyddio ymarfer myfyriol mewn sefydliad.
- Gweminar ar Gyfweld Ysgogiadol: cyflwyno'r egwyddorion a'r sgiliau craidd
- Gweminar ar ymagweddau cadarnhaol: edrych ar arferion Seiliedig ar Seicoleg a Thrawma, ymagweddau sy'n Seiliedig ar Gryfderau a Thai yn Gyntaf a sut maent yn gweithio gyda’i gilydd
- Gweminar ar fynd i'r afael â thuedd anymwybodol
You may also like
-
This training aims to help outreach teams deliver effective support interventions and achieve positive outcomes for people sleeping rough.
-
Resources and training to support assertive street outreach
-
Monday, 27 January 2020 | Online | 2.00pm-3.00pm
Providing you with the information you need to understand the concept of unconscious bias and how awareness of it and managing it will enhance your daily interactions with your service users, colleagues and within your personal life.